Living Life to the Full (CBT)

Beth yw’r grwpiau Living Life to the Full?

Mae’r grwp wedi ei seilio ar dechnegau therapi ‘cognitive behavioural’ (CBT) i helpu problemau cyffredin fel straen, poeni, iselder a phryder. Mae CBT yn ddull seicolegol sydd yn edrych ar sut mae ein meddyliau yn gweithio, sut rydym yn teimlo ac sut rydym yn ymddwyn a sut mae’r pethau yma ynghlwm efo’u gilydd.

Pwrpas y grwp yma yw i’ch helpu i gael mwy o reolaeth dros sut rydych yn teimlo. Mae’r sesiynau yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau ymarferol i wella eich bywydau un cam ar y tro. Mae pynciau’r sesiynau yn ddiddorol iawn ac yn gallu body n ddefnyddiol i unrhywun o unrhyw gefndir, mewn unrhyw sefyllfa. Bydd y grwp hefyd yn eich annog i ddefnyddio’r sgiliau newydd rydych yn dysgu rhwng y sesiynau.

Oes rhaid i mi drafod problemau neu faterion personol?

Mae croeso i chi rannu pethau personol efo’r grwp os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud, ond does dim pwysau arnoch i rannu unrhywbeth os nad ydych eisiau gwneud.

Am ba mor hir mae’r grwp yn para?

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn wythnosol. Rydym yn eich annog i ddod i bob sesiwn os yn bosibl fel eich bod yn gwneud y gorau o’r cyfle i elwa o’r grwp. Cofiwch i gadarnhau manylion y grwp pan yn bwcio.

 Hyd y Grwp Hyd y Sesiynau
 7 Wythnos  2 awr

 

Pwy fydd yna?

Rydym yn ceisio sicrhau fod y grwp yn ddigon bach i alluogi trafodaeth cyfforddus. Mi fydd pawb sydd yn dod i’r grwp wedi cael asesiad gan y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwo Iechyd Meddwl (PMHSS). Mae pob un o’r grwpiau yn cael eu rhedeg gan weithwyr iechyd meddwl.

Mae’n hollol naturiol i bobl deimlo’n bryderus ynglyn â cwrdd â’r grwp am y tro cyntaf. Fodd bynnag, oherwydd yr awyrgylch anffurfiol a chynorthwyol, mae pryder pobl yn tueddu i ddiflannu ar ôl y sesiwn cyntaf.

Sut ydw i’n bwcio lle?

I geisio sicrhau fod y grwpiau ar gael i gymaint o bobl â phosibl, rydym yn cynnal y cyrsiau mewn gwahanol lefydd ar draws Caerdydd a’r Fro, ac ar wahanol adegau o’r dydd a gyda’r nos, i geisio gweddu i amserlenni gwahanol. I gael mynediad i’r grwpiau Living Life to the Full, sicrhewch fod eich Meddyg Teulu neu eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) ar gyfer asesiad gan ein tîm.

Children and Young People

Mae’r Tim Iechyd Meddwl Cynradd yn cyfarfod gyda pobl ifanc (dan 18 oed) a’u teuluoedd i gynorthwyo gyda amryw o anhawsterau, yn cynnwys pryder, iselder ysbryd, pwysau ac anhawasterau perthynas i enwi dim ond rhai.

Bydd yr asesiad yma gyda aelod o’r tim ac yn parahu am tua awr. Mae’n gyfle i ddod i’ch adnabod yn well, ac rydym ym croesawu unrhywun sydd eisiau mynychu ac yn medru cyfrannu i’r sgwrs.

Byddwn yn gofyn cwestiynnau am beth sydd yn digwydd ar hyn o bryd yn y cartref, yr ysgol a pha gymorth arall yr ydych wedi derbyn oddiwrth weithwyr proffesiynol yn y gorffenol.

Yn ystod yr apwyntiad yma byddwch yn cael y siawns i ofyn cwestiynau ac i benderfynu gyda’n gilydd ar y cam nesaf. Weithiau bydd yr un cyfarfod yma yn ddigonol. Ar brydiau eraill bydd yn briodol i feddwl am wasanaethau ychwanegol gellir bod o fudd; neu bydd y Tim Iechyd Meddwl Cynradd yn medru parhau i’ch cefnogi am gyfnod.

Oherwydd y niferau uchel o gyfeiriadau mae’n bosib y bydd rhaid aros am gefnogaeth un-wrth-un oddiwrth aelod o’r tim. Yr ydym yn anelu gweld pobol ifanc a’u teuluoedd cyn gynted a bod modd ac rydym yn deall y rhwystredigaeth o orfod aros.

Os clywn am ofidion difrifol sy’n gofyn am ymateb cyflym, yna byddwn yn gwneud yn siwr i’ch cyfeirio at y gwasanaeth cymwys heb oedi.

Weithiau byddwn yn eich cysylltu ar y ffon ymlaen llaw i gasglu gwybodaeth perthnasol i helpu gyda’r asesiad. Os na fydd yn amser cyfleus peidiwch oedi i ddweud wrthom.

Weithiau mae myfyrwyr seicoleg neu nyrsio yn ymuno gyda ni. Os nad ydych am iddynt ymuno a’r cyfarfod does dim problem, gadewch i ni wybod.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau yna cysylltwch a ni ar 02920 536 795

Mae dau o aelodau’r tim yn medru’r Gymraeg. Gallwch ofyn am asesiad trwy gyfrwng y Gymraeg.

ADNODDAU DEFNYDDIOL:

meic logo

Meic Cymru
0808 8023456 (open 24 hours a day, 7 days a week)
Free advocacy, information and advice helpline for children and young people

families first

EARLY GATEWAY  03000 133133 for Cardiff Families (was Cardiff support 4 families)
FAMILIES FIRST 0800 0327322 for Vale of Glamorgan families
Offering advice/help to find the most appropriate service in Cardiff and The Vale of Glamorgan for children, young people and families. The trained staff for these lines will have the time to explore challenging issues relating to children and young people and discuss a range of options with you. In some circumstances, more extensive, home based assessments can be arranged.

CGL Logo
Emotional Wellbeing Service - Cardiff and The Vale
0800 0086879 (freephone)
Supporting young people with mental health, emotional wellbeing and risk taking behaviours

Cysylltwch â ni:02920 536795

Polisi Preifatrwydd
Diben
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl wybodaeth a gesglir neu a gyflwynir ar y wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae’n cynnwys manylion am yr wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, sut a pham yr ydym yn ei chasglu. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiad, cyflwynwch eich cais trwy’r ‘Ffurflen Adborth’ gan ddyfynnu 'datganiad preifatrwydd'.

Fel y disgrifir yn narpariaethau UK Data Protection Act 1998 (dolen i wefan allanol), rydym yn cymryd camau priodol i gynnal diogelwch eich data ar ein gwefan. Caiff yr wybodaeth a gesglir ei llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio’r wefan hon yn arwydd o’ch caniatâd.

 


Yr Wybodaeth yr Ydym yn ei Chasglu
Gwybodaeth Bersonol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y safle. Pan fyddwch yn cyflwyno data y gellir ei adnabod o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), caiff yr wybodaeth a gyflwynir ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben y’i bwriadwyd yn unig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr gwe gyda thrydydd partïon.

Olrhain Defnyddwyr
Rydym yn monitro gweithgaredd defnyddwyr i wella’r cynnwys a geir ar y safle. Mae Google Analytics (dolen i wefan allanol) yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan Google (dolen i wefan allanol) sydd yn creu ystadegau manwl am ymwelwyr gwefannau.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys tudalennau gwe cyfeirio / gadael, patrymau clicio, tudalennau gwe yr ymwelir â hwy fwyaf / lleiaf, hyd sesiynau, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Cesglir yr wybodaeth gan ddefnyddio cookies.

Sut yr Ydym yn Casglu Gwybodaeth
Google Analytics
Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics (dolen i wefan allanol), gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgaredd defnyddwyr ar wefannau. Caiff yr wybodaeth a gaiff ei chreu am eich defnydd chi o’r wefan (yn cynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau a’i storio yno.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu adroddiadau gweithgaredd defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddo wneud hynny, neu os bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a gadwyd yn flaenorol. Gallwch wrthod y defnydd o cookies trwy ddethol y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder, os bydd cwcis yn cael eu hanablu, efallai na fyddwch yn gallu cael defnyddioldeb llawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi eich caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y ffordd ac at y dibenion a nodir uchod.

Darllenwch Google's Full Privacy Policy (dolen i wefan allanol) a’r Terms of Service (dolen i wefan allanol) am wybodaeth fanwl.

Beth yw Cookies?

Ffeiliau bach yw cwcis y mae gwefannau’n eu rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro y byddwch yn ymweld. Cânt eu defnyddio i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a chadw gwybodaeth am hoffterau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu / anablu cwcis ar eich porwr; noder efallai na fydd rhai gwefannau yn gweithio’n iawn heb cwcis.
Sut i Anablu Cookies
I newid eich gosodiadau cookies:

Internet Explorer: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislenni > Dewiswch ‘Internet Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Disable / restrict cookies
Firefox: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislenni > Dewiswch ‘Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Disable / restrict cookies
Opera: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislenni > Dewiswch ‘Preferences’ > Dewiswch ‘Privacy / Advanced’ > Disable / restrict cookies

* Noder y gall y gosodiadau uchod amrywio yn dibynnu ar fersiwn y porwr.

Pam yr Ydym yn Casglu Ystadegau Defnyddwyr
Trwy ddeall ymddygiad a hoffterau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i fodloni disgwyliadau ac anghenion defnyddwyr.

Gwefannau Allanol
Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i gysylltiadau allanol; mae casglu gwybodaeth gan safleoedd o’r fath yn amodol ar bolisïau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol ac mae defnyddio gwefannau o’r fath yn ôl eich disgresiwn chi

 

stepia

I gyrchu'r adnoddau a’r deunyddiau a ddefnyddir ar y cwrs cyn y digwyddiad, cliciwch yma. Rydym yn argymell i chi darllen y deunyddiau paratoi ar gyfer y cwrs cyn mynychu.

 

Rheoli Straen – Beth yw hyn?

Mae straen yn broblem gyffredin ym Mhrydain sy’n effeithio ar bedwar o bob deg person ac yn arwain at ymweliadau â meddygon teulu ynglŷn â symptomau fel stumogau cythryblus, cur pen, cwsg gwael, yn ogystal â phroblemau iechyd meddwl. Mae straen yn medru llethu a blino unigolyn, a gall effeithio ar unrhyw un - waeth beth fo'u cefndir, eu hoedran na’u rhyw. Er bod straen yn rhan arferol o fywyd, mae modd ei reoli.

 

Mae'r cwrs Rheoli Straen, a gynigir gan y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol ar gyfer Caerdydd a'r Fro, yn rhaglen am ddim am gyfnod o chwe wythnos. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i’ch helpu i ganfod dulliau o reoli straen yn effeithiol. Mewn sesiynau wythnosol 2 awr, byddwch yn dysgu am dechnegau newydd ac yn cael pecyn cymorth cynhwysfawr ar ddiwedd y cwrs. Nod y cwrs hwn yw grymuso unigolion i reoli eu straen yn well. Er bod achosion straen yn medru bod yn gymhleth, mae’n bosibl ymdopi â straen a’i reoli.

 

Mae'r cwrs yn agored i'r cyhoedd*. Does dim angen cofrestru ar ei gyfer. Os ydych chi’n methu â mynychu sesiwn, peidiwch â phoeni: gallwch ddal i fyny trwy fynychu cwrs rheoli straen arall i’r dyfodol, neu’r sesiwn benodol a gollwyd gennych.

 

Mae'r cwrs yn rhedeg yn wythnosol am 6 wythnos. Mae pob sesiwn yn 2 awr o hyd sy'n cynnwys seibiant byr.

 

Sesiwn 1: Beth yw Straen?

Sesiwn 2: Rheoli eich corff

Sesiwn 3: Rheoli eich meddyliau

Sesiwn 4: Rheoli eich gweithredoedd

Sesiwn 5: Rheoli teimladau panic a chael noson dda o gwsg

Sesiwn 6: Hybu eich lles, clymu popeth at ei gilydd a rheoli eich dyfodol

*Er bod Rheolaeth Straen yn gwrs mynediad agored, cwrs i oedolion (18+) yn unig ydyw. Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi.

 

Cyrsiau sydd ar y gweill:

Lleoliad

Canton Uniting Church, Cowbridge Rd E, Canton CF5 1LQ.

Hygyrch gyda thrafnidiaeth gyhoeddus - Bws Caerdydd, 13, 17 a 18.

Canton Uniting Church picCanton Uniting Church map

Amser 

 

14:00-1600

 

Dyddiadau

 

06/03/2024 - Sesiwn 1: Beth yw Straen?

13/03/2024 - Sesiwn 2: Rheoli eich corff

20/03/2024 - Sesiwn 3: Rheoli eich meddyliau

27/03/2024 - Sesiwn 4: Rheoli eich gweithredoedd

03/04/2024 - Sesiwn 5: Rheoli teimladau panic a chael noson dda o gwsg

10/04/2024 - Sesiwn 6: Hybu eich lles, clymu popeth at ei gilydd a rheoli eich dyfodol

 

 

Location

Chapter Arts, Market Rd, Cardiff CF5 1QE

Accessible by Cardiff Bus, 13, 17 and 18.

Chapter Arts Centre Cardiff | Visit Wales

Time 

 

12:30-14:30

 

Dates

02/05/2024 - Session 1: What is Stress?

09/05/2024 - Session 2: Controlling your body

16/05/2024 - Session 3: Controlling your thoughts

23/05/2024 - Session 4: Controlling your actions

30/05/2024 - Session 5: Controlling panicky feelings and getting a good night’s sleep

06/06/2024 - Session 6: Boosting your wellbeing, tying it all together and controlling your future

Accessibility

 

Fully accessible venue with facilities. Venue on first floor with lift access. Parking – Chapter has car park. Limited street parking.

 

Location
Bethal Baptish Church Hall, Penlline Rd, Cardiff CF14 2AA
Bethel Baptist Church
Time 

 

10:30-12:30

 

Dates

13/06/2024 - Session 1: What is Stress?

20/06/2024 - Session 2: Controlling your body

27/06/2024 - Session 3: Controlling your thoughts

04/07/2024 - Session 4: Controlling your actions

11/07/2024 - Session 5: Controlling panicky feelings and getting a good night’s sleep

18/07/2024 - Session 6: Boosting your wellbeing, tying it all together and controlling your future

Accessibility

 

Fully accessible venue with facilities. Parking – Bethal Church s car park.

Parcio – parcio stryd cyfyngedig. Mae parcio taladwy ar gael yn maes parcio Stryd Harvey gyferbyn â'r lleoliad.

 

 

Mae ein partneriaid trydydd sector gwerthfawr hefyd yn rhedeg ystod o gyrsiau a gwasanaethau.

Ar gyfer cyrsiau ym Mro Morgannwg - cliciwch yma.

Ar gyfer cyrsiau yng Nghaerdydd - cliciwch yma