What We Do

Beth rydym ni’n ei wneud

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn wasanaeth i bobl o bob oedran sydd yn byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn cynnwys straen, pryder ac iselder. Mae’r Gwasanaeth ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghaerdydd neu’r Fro. Mae’r Gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim fel rhan o’r NHS.
 
Mae’n Gwasanaeth yn canolbwyntio ar welliant. Mae hwn yn golygu bydd pob person yn derbyn cymorth i ddarganfod beth sydd yn bwysig iddynt, ac y cyfle i weithio tuag at eu nod.

Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl:

Siaradwch efo’ch Meddyg Teulu os ydych yn credu bod y Gwasanaeth yma yn berthnasol i chi. Mi all eich Meddyg Teulu eich cyfeirio atom ni gyda eich caniatad.
 
Rydym yn ceisio cysylltu â chi o fewn 28 diwrnod o dderbyn eich cyfeireb i gynnig asesiad dros y ffôn. Mae hwn yn gyfle i drafod eich opsiynnau ac i chi gael gwybodaeth am y gwasanaethau lleol a’r cymorth tymor-byr perthnasol sydd ar gael i chi. Weithiau, yr opsiwn mwyaf perthnasol bydd cyfeririad at dîm gwahanol, a fyddai hyn yn cael ei drafod ac ei egluro i chi.

Ymwelwch â’r wêfan Galw Iechyd Cymru i ddarganfod manylion eich Meddyg Teulu. Dydy ein tîm ni ddim yn addas i bobl sydd angen cymorth ar frys.
 
Mae’n bosibl i’ch Meddyg Teulu hefyd eich cyfeirio at y Gwasanaeth Cownslera Cynradd.

Os ydych wedi bod mewn rhyfel, efallai bydd y wêfan Veterans' NHS Wales yn ddefnyddiol i chi.