Get Involved

Cyrsiau i’r Cyhoedd yng Nghaerdydd a’r Fro

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn rhedeg gwahanol gyrsiau addysgiadol i’r cyhoedd yn y gymuned. Mae’n bosibl i chi ymuno ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydy’r cwrs wedi cychwyn, gan ei fod hi’n bosibl i chi fynd i’r cwrs canlynol i ddal i fyny gyda unrhyw sesiynau rydych wedi colli. Mae’r sesiynau yn hunan-gynhwysol felly does dim angen i chi boeni am fethu cadw i fyny â’r sesiynau.

Mae rheolau diogelwch tân yn ein gorfodi i gyfyngu nifer y gynulleidfa mewn rhai o’n adeiladau, felly rydym yn argymell yn gryf i bobl gyrraedd cyn gynted â phosibl. Os ydy’r adeilad yn llenwi, mae yna siawns bydd rhaid gwrthod mynediad i bobl. 

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill yn eich cymuned ac mae’n bosibl y fyddai rhain yn ddefnyddiol i chi. Mewn rhai amgylchiadau gallwch gwrdd â aelod o’n tîm am drafodaeth mwy dwfn, yn cynnwys opsiynau i ddatrys unrhyw broblemau ymarferol sydd gennych.

Er fod croeso i chi ddod i’r ddau gwrs rydym yn rhedeg, rydym yn argymell eich bod yn mynd i un cwrs ar y tro gan fod gan y cwrs Stress Control a’r cwrs ACT-ion for Living safbwyntiau ychydig yn wahanol.