Stepiau about

Adnoddau hunan-help i wella eich iechyd meddwl

Yn aml, y cam cyntaf yw i gymeryd golwg ar ein adnoddau hunan-help. Rydym yn argymell cyfres o 23 taflen hunan-help sydd ar gael drwy glicio ar y delwedd isod. 

 

Taflenni Gwybodaeth

Mae ein tîm ni ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi datblygu cyfres o daflenni gwybodaeth sydd efo cysylltiadau i wasanaethau defnyddiol eraill. Cliciwch ar y teitl perthnasol isod. Yn anffodus, nid yw’r taflenni ar gael yng Nghymraeg: 

 

Mae yna nifer o adnoddau eraill rydym hefyd yn argymell ar y wê. Dyma restr o rai ohonynt:

CCI logowww.cci.health.wa.gov.au

Gwybodaeth cyffredinol am wahanol broblemau iechyd meddwl yn ogystal â sgiliau sy’n teillio o’r therapi ‘cognitive behavioural’ i helpu chi wynebu anhwasterau fel pryder ac iselder.

LLTTF2www.livinglifetothefull.com

 Cwrs o safon uchel ac yn hawdd i’w ddefnyddio yw ‘Living Life to the Full’, sydd yn cynnig hyfforddiant ar wahanol sgiliau bywyd.
Moodjuice4www.moodjuice.scot.nhs.uk

Mae’r wêfan yma wedi ei ddatblygu i’ch annog chi i feddwl am eich problemau emosiynol a gweithio tuag at eu datrys.

Presgripsiwn llyfrau

Mae Presgripsiwn Llyfrau Cymru yn gynllun i gefnogi pobl â phroblemau emosiynol ysgafn i gymedrol gan ddefnyddio llyfrau hunan-help o ansawdd uchel sydd wedi eu dewis yn arbennig gan Seicolegwyr a Chynghorwyr yn gweithio yng Nghymru.

Gall Meddygion Teulu neu aelod o dîm iechyd meddwl roi presgripsiwn ar gyfer lyfr penodol sydd ar gael ym mhob llyfrgell ar draws Cymru. Am fwy o wybodaeth, gwelwch: Presgripsiwn Llyfrau Cymru.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

NERS

Mae’r cynllun yma wedi ei ariannu gan Cynulliad Cymru i greu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau gwneud ymarfer corf a’i ymgorffori i’w bywyd bob dydd. Am fwy o wybodaeth, gwelwch: Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru.

Cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. yng Nghanolfan Hamdden Bari ar01446 403000 os ydych efo diddordeb ac yn byw ym Mro Glamorgan neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. yng Nghanolfan Hamdden Western ar 02920 872924 os ydych efo diddordeb ac yn byw yng Nghaerdydd.

Stepiau services footer banner