Stepiau services

Cyrsiau i’r Cyhoedd yng Nghaerdydd a’r Fro

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn rhedeg gwahanol gyrsiau addysgiadol i’r cyhoedd yn y gymuned. Mae’n bosibl i chi ymuno ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydy’r cwrs wedi cychwyn, gan ei fod hi’n bosibl i chi fynd i’r cwrs canlynol i ddal i fyny gyda unrhyw sesiynau rydych wedi colli. Mae’r sesiynau yn hunan-gynhwysol felly does dim angen i chi boeni am fethu cadw i fyny â’r sesiynau.

Mae rheolau diogelwch tân yn ein gorfodi i gyfyngu nifer y gynulleidfa mewn rhai o’n adeiladau, felly rydym yn argymell yn gryf i bobl gyrraedd cyn gynted â phosibl. Os ydy’r adeilad yn llenwi, mae yna siawns bydd rhaid gwrthod mynediad i bobl. 

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill yn eich cymuned ac mae’n bosibl y fyddai rhain yn ddefnyddiol i chi. Mewn rhai amgylchiadau gallwch gwrdd â aelod o’n tîm am drafodaeth mwy dwfn, yn cynnwys opsiynau i ddatrys unrhyw broblemau ymarferol sydd gennych.

Er fod croeso i chi ddod i’r ddau gwrs rydym yn rhedeg, rydym yn argymell eich bod yn mynd i un cwrs ar y tro gan fod gan y cwrs Stress Control a’r cwrs ACT-ion for Living safbwyntiau ychydig yn wahanol.

 Stress Control - Mae’r cwrs yma ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu ffordd wahanol i reoli eu straen neu eu pryder. Mae’r cwrs yn dysgu ffyrdd a sgiliau gwahanol i fyw gyda straen. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych sgiliau newydd i reoli straen.

ACT-ion for living - Mae brywdro i geisio cael gwared o broblem emosiynol yn gallu gwneud y sefyllfa yn waeth. Mae disgwyl am fywyd perffaith heb unrhyw broblemau emosiynol yn golygu aros am amser hir iawn, iawn. Efallai yr ateb yw i dderbyn fod bywyd yn llawn problemau emosiynol gan ddefnyddio therapi ‘Acceptance and Commitment’.

Cliciwch isod am fwy o wybodaeth!

 

 

Mae’r cyrsiau yma yng Nghaerdydd a’r Fro ar gael i bawb – nid oes angen bwcio eich lle, dim ond dod! Mae’n anhebyg i’r cyrsiau fod yn hollol lawn ond os ydy’r cyrsiau yn llewni, bydd y llefydd yn mynd i’r bobl sydd yn cyrraedd gyntaf.

Os nad yw eich Meddyg Teulu yng Nghaerdydd neu’r Fro, ond mae gennych ddiddordeb dod i’r cyrsiau, dylech allu cael mynediad i’r cyrsiau drwy eich Bwrdd Iechyd lleol, er enghraifft:
Abertawe Bro Morgannwg UHB, Aneurin Bevan UHB, a Cwm Taf UHB

Cyrsiau lleol eraill:

Live Local Learn Local

Education Programs for Patients (EPP) Cardiff

Education Programs for Patients (EPP) Vale of Glamorgan

Cysystwll â ni: 02920 906223

Stepiau get involved footer banner