Stepiau Get involved

Grwpiau therapiwtig yng Nghaerdydd a’r Fro

Rydym yn cynnig grwpiau therapiwtig mwy dwys, gyda llai o bobl ac awyrgylch sydd yn fwy agos atoch.  
I’ch galluogi chi i ddod i un o’r grwpiau yma, sicrhewch bod cyfeiriad yn cael ei wneud at y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwo Iechyd Meddwl (PMHSS) gan eich Meddyg Teulu neu’r Gwasanaeth Gweithredu dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro. Mae’r grwpiau yma ar gyfer pobl 18+. Cyfeiriwch at y Gwasanaeth Plant a Phobl ifanc os ydych eisiau cymorth ar gyfer rhywun o dan 18.
 
Rydym yn cynnal y cyrsiau rheolaidd canlynol: 
Living Life to the Full (CBT) ar gyfer pobl â phryder ac iselder. 
Mindfulness for Wellbeing
Anger Awareness
Behavioural Activation 

Mae gwasanaethau eraill hefyd yn rhedeg grwpiau gwahanol. Os fyddai un o’r grwpiau eraill yma yn berthnasol i chi, bydd un o’n tîm yn gallu esbonio mwy yn ystod eich asesiad.

Os ydych yn credu fyddai un o’r grwpiau therapiwtig yma yn ddefnyddiol i chi, sicrhewch eich bod yn cael eich cyfeirio at Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS). Bydd ein asesiad yn helpu sicrhau eich bod yn mynd i’r grwp mwyaf addas i chi.  

Os nad yw eich Meddyg Teulu yng Nghaerdydd neu’r Fro, ond mae gennych ddiddordeb dod i’r grwpiau therapiwtig, dylech allu cael mynediad drwy eich Bwrdd Iechyd lleol, er enghraifft:  
Abertawe Bro Morgannwg UHBAneurin Bevan UHB, a Cwm Taf UHB

Stepiau get involved footer banner