Get Involved

Cyrsiau i’r Cyhoedd yng Nghaerdydd a’r Fro

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn rhedeg gwahanol gyrsiau addysgiadol i’r cyhoedd yn y gymuned. Mae’n bosibl i chi ymuno ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydy’r cwrs wedi cychwyn, gan ei fod hi’n bosibl i chi fynd i’r cwrs canlynol i ddal i fyny gyda unrhyw sesiynau rydych wedi colli. Mae’r sesiynau yn hunan-gynhwysol felly does dim angen i chi boeni am fethu cadw i fyny â’r sesiynau.

Mae rheolau diogelwch tân yn ein gorfodi i gyfyngu nifer y gynulleidfa mewn rhai o’n adeiladau, felly rydym yn argymell yn gryf i bobl gyrraedd cyn gynted â phosibl. Os ydy’r adeilad yn llenwi, mae yna siawns bydd rhaid gwrthod mynediad i bobl. 

Mae’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill yn eich cymuned ac mae’n bosibl y fyddai rhain yn ddefnyddiol i chi. Mewn rhai amgylchiadau gallwch gwrdd â aelod o’n tîm am drafodaeth mwy dwfn, yn cynnwys opsiynau i ddatrys unrhyw broblemau ymarferol sydd gennych.

Er fod croeso i chi ddod i’r ddau gwrs rydym yn rhedeg, rydym yn argymell eich bod yn mynd i un cwrs ar y tro gan fod gan y cwrs Stress Control a’r cwrs ACT-ion for Living safbwyntiau ychydig yn wahanol.

Stepiau services

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol 

Efallai mai cysylltu â gwasanaeth yn eich cymuned bydd y cam defnyddiol nesaf. Mae yna sefydliadau yn cynnig gwasanaethau i chi a rhai sydd yn cynnig cyfleodd i weithio efo’r sefydliad.

Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich lles iechyd meddwl – neu eisiau gwybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall. Mae pobl yn dweud ei bod hi’n anodd i ddarganfod y gwybodaeth cywir, sydd wedi ei gyflwyno yn gywir, ar yr amser pan rydych wir angen y gwybodaeth. Mae gwêfan Dewis Cymru yn ceisio newid hyn drwy gyflwyno gwybodaeth dibynadwy o rydwaith cymorth cymdeithasol, iechyd a gwasanaethau y trydydd sector ar draws Cymru.

Mae ein tîm hefyd yn argymell yr elusen Gweithredu Dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro - www.cavamh.org.uk - sydd yn gweithio i wella iechyd meddwl pobl o Gaerdydd a’r Fro. Mae gan yr elusen restr o’r holl wasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yn bresennol. Mae’r rhestr yma ar gael ar www.cavamh.org.uk/directories/mental-health-directory. Y gallwch hefyd edrych ar wêfan Galw Iechyd Cymru: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk.

 

Stepiau services footer banner

Stepiau about

Nid yw lles iechyd meddwl yn golygu cael gwared o broblemau seicolegol fel iselder neu phryder...

...Mae o’n golygu cymeryd camau yn y cyfeiriad cywir

Datblygwyd y gwasanaeth ‘Stepiau’ gan y Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) ar gyfer Caerdydd a’r Fro. 

Mae Stepiau yn bennaf yn cynnig deunydd hunan-help a chysylltiadau i wasanaethau lleol ac yn gweld rhain fel y camau cyntaf i ddatblygu lles iechyd meddwl.
Mae’n bosibl i gael eich cyfeirio at PMHSS gan eich Meddyg Teulu ar gyfer asesiad gan ein tîm. Yn aml, mae dod i un o’n cyrsiau sydd ar agor i’r cyhoedd yn gam da.
Efallai y cam nesaf bydd dod i un o’n grwpiau therapiwtig neu un o’n gwasanaethau eraill.
Y gallwn hefyd argymell lle i droi os oes angen cymorth arnoch ar frys.

Stepiau about footer banner