Stepiau services

Gwasanaethau Lleol Meddwl Lleol

Efallai mai cysylltu â gwasanaeth yn eich cymuned bydd y cam defnyddiol nesaf. Mae yna sefydliadau yn cynnig gwasanaethau i chi a rhai sydd yn cynnig cyfleodd i weithio efo’r sefydliad.

dewis logo

Dewis Cymru yw’r lle i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich lles iechyd meddwl – neu eisiau gwybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall. Mae pobl yn dweud ei bod hi’n anodd i ddarganfod y gwybodaeth cywir, sydd wedi ei gyflwyno yn gywir, ar yr amser pan rydych wir angen y gwybodaeth. Mae gwêfan Dewis Cymru yn ceisio newid hyn drwy gyflwyno gwybodaeth dibynadwy o rydwaith cymorth cymdeithasol, iechyd a gwasanaethau y trydydd sector ar draws Cymru.

cavamh trans

Mae ein tîm hefyd yn argymell yr elusen Gweithredu Dros Iechyd Meddwl Caerdydd a’r Fro - www.cavamh.org.uk - sydd yn gweithio i wella iechyd meddwl pobl o Gaerdydd a’r Fro. Mae gan yr elusen restr o’r holl wasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yn bresennol. Mae’r rhestr yma ar gael ar www.cavamh.org.uk/directories/mental-health-directory. Y gallwch hefyd edrych ar wêfan Galw Iechyd Cymru: www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk.

Stepiau about footer banner

Stepiau about

Adnoddau hunan-help i wella eich iechyd meddwl

Yn aml, y cam cyntaf yw i gymeryd golwg ar ein adnoddau hunan-help. Rydym yn argymell cyfres o 23 taflen hunan-help sydd ar gael drwy glicio ar y delwedd isod. 

 

Taflenni Gwybodaeth

Mae ein tîm ni ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi datblygu cyfres o daflenni gwybodaeth sydd efo cysylltiadau i wasanaethau defnyddiol eraill. Cliciwch ar y teitl perthnasol isod. Yn anffodus, nid yw’r taflenni ar gael yng Nghymraeg: 

 

Mae yna nifer o adnoddau eraill rydym hefyd yn argymell ar y wê. Dyma restr o rai ohonynt:

CCI logowww.cci.health.wa.gov.au

Gwybodaeth cyffredinol am wahanol broblemau iechyd meddwl yn ogystal â sgiliau sy’n teillio o’r therapi ‘cognitive behavioural’ i helpu chi wynebu anhwasterau fel pryder ac iselder.

LLTTF2www.livinglifetothefull.com

 Cwrs o safon uchel ac yn hawdd i’w ddefnyddio yw ‘Living Life to the Full’, sydd yn cynnig hyfforddiant ar wahanol sgiliau bywyd.
Moodjuice4www.moodjuice.scot.nhs.uk

Mae’r wêfan yma wedi ei ddatblygu i’ch annog chi i feddwl am eich problemau emosiynol a gweithio tuag at eu datrys.

Presgripsiwn llyfrau

Mae Presgripsiwn Llyfrau Cymru yn gynllun i gefnogi pobl â phroblemau emosiynol ysgafn i gymedrol gan ddefnyddio llyfrau hunan-help o ansawdd uchel sydd wedi eu dewis yn arbennig gan Seicolegwyr a Chynghorwyr yn gweithio yng Nghymru.

Gall Meddygion Teulu neu aelod o dîm iechyd meddwl roi presgripsiwn ar gyfer lyfr penodol sydd ar gael ym mhob llyfrgell ar draws Cymru. Am fwy o wybodaeth, gwelwch: Presgripsiwn Llyfrau Cymru.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

NERS

Mae’r cynllun yma wedi ei ariannu gan Cynulliad Cymru i greu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau gwneud ymarfer corf a’i ymgorffori i’w bywyd bob dydd. Am fwy o wybodaeth, gwelwch: Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru.

Cysylltwch â Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. yng Nghanolfan Hamdden Bari ar01446 403000 os ydych efo diddordeb ac yn byw ym Mro Glamorgan neu Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. yng Nghanolfan Hamdden Western ar 02920 872924 os ydych efo diddordeb ac yn byw yng Nghaerdydd.

Stepiau services footer banner

Contact

Angen Cymorth ar Frys?

Nid yw’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn wasanaeth addas ar gyfer pobl mewn argyfwng neu pobl sydd angen cymorth ar frys. Gobeithio bod y wefan hon yn ddefnyddiol i chi

Os ydych chi, neu rhywun arall, mewn argyfwng, deialwch 999. 

Os ydych chi, neu rhywun arall, ddim mewn argyfwng ond angen cymorth ar frys, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu i ddechrau i alluogi cyfeiriad at y gwasanaethau priodol. Os ydych angen cymorth ar frys tu allan i oriau arferol eich Meddyg Teulu, dylech fynd at y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).

Os ydych angen siarad efo rhywun heddiw, cysylltwch â:

CALL

Llinell Gyngor a Gwrando’s Gymuned  0800 132737 (Ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos) Yn cynnig cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth a llenyddiaeth ar iechyd meddwl a phynciau cysylltiedig ar gyfer pobl yng Nghymru. Mi all unrhyw un sy’n bryderus am eu iechyd meddwl, neu iechyd meddwl rhywun arall, gysylltu â’r gwasanaeth.

Samaritans

The Samaritans 08457 909090 (Ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos) Yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol, am ddim, dros y ffôn i unrhyw un sydd yn teimlo’n anobeithiol neu yn ddigalon, yn cynnwys pobl sydd yn meddwl cymeryd eu bywydau eu hunain. Mae’n bosibl i gwrdd â aelod o’r staff yn eu swyddfeydd lleol.

Mind

Mind Infoline 0300 123 3393 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am –  5pm).
Cymorth cyfrinachol, am ddim a gwybodaeth am nifer o wahanol broblemau iechyd meddwl.

Silverline

The Silver Line 0800 4708090 (open 24 hours a day, 7 days a week)
Llinell gymorth cyfrinachol, am ddim, ar gyfer pobl hŷn.

Meic

Meic Cymru 0808 8023456 (Ar gael bob diwrnod o 8am i ganol nos)
Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc.

Family Point Cymru

PwyntTeulu Cymru  0300 2225757 (Ar gael Dydd Llun i Ddyd Gwener, 9am – 5pm)
Gwêfan gyda deunydd defnyddiol ac erthyglau ‘cymorth cyfoedion’ a llinell gymorth eiriolaeth i gefnogi teuluoedd i gysylltu â unrhyw wasanaethau perthnasol.

Stepiau Testimonials

Stepiau Testimonial

“I was very sceptical at this prior to coming and I’ve found myself proven wrong”

 


  

Stepiau Testimonial

“Great course with many materials given to help with the present as well as the future”

  


 

Stepiau Testimonial

“I have been having a difficult time lately. Going to the sessions has been a challenge but I have felt better by coming”

 


 

Stepiau Testimonial

“Very helpful to learn that I am not alone in the way I think and feel”

 


 

Stepiau Testimonial

“I was apprehensive at first but the facilitators were so down to earth and made us all feel at ease”

 


 

Stepiau Testimonial

“The course gave me more than I thought I would get out of it”

 


 

Stepiau Testimonial

“It gave me the skills and confidence to face and overcome situations and emotions that were causing me difficulties”

 


 

Stepiau Testimonial

“I would recommend to a friend. Very helpful, friendly service”

 


 

Stepiau Testimonial

“This has helped me copy with the day to day feelings of low mood and anxiety”

 


 

Stepiau Testimonials