Polisi Preifatrwydd
Diben
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl wybodaeth a gesglir neu a gyflwynir ar y wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae’n cynnwys manylion am yr wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, sut a pham yr ydym yn ei chasglu. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiad, cyflwynwch eich cais trwy’r ‘Ffurflen Adborth’ gan ddyfynnu 'datganiad preifatrwydd'.

Fel y disgrifir yn narpariaethau UK Data Protection Act 1998 (dolen i wefan allanol), rydym yn cymryd camau priodol i gynnal diogelwch eich data ar ein gwefan. Caiff yr wybodaeth a gesglir ei llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio’r wefan hon yn arwydd o’ch caniatâd.

 


Yr Wybodaeth yr Ydym yn ei Chasglu
Gwybodaeth Bersonol

Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am ddefnyddwyr y safle. Pan fyddwch yn cyflwyno data y gellir ei adnabod o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), caiff yr wybodaeth a gyflwynir ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben y’i bwriadwyd yn unig. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr gwe gyda thrydydd partïon.

Olrhain Defnyddwyr
Rydym yn monitro gweithgaredd defnyddwyr i wella’r cynnwys a geir ar y safle. Mae Google Analytics (dolen i wefan allanol) yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan Google (dolen i wefan allanol) sydd yn creu ystadegau manwl am ymwelwyr gwefannau.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys tudalennau gwe cyfeirio / gadael, patrymau clicio, tudalennau gwe yr ymwelir â hwy fwyaf / lleiaf, hyd sesiynau, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Cesglir yr wybodaeth gan ddefnyddio cookies.

Sut yr Ydym yn Casglu Gwybodaeth
Google Analytics
Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics (dolen i wefan allanol), gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google Inc. ('Google'). Mae Google Analytics yn defnyddio 'cwcis' a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgaredd defnyddwyr ar wefannau. Caiff yr wybodaeth a gaiff ei chreu am eich defnydd chi o’r wefan (yn cynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau a’i storio yno.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu adroddiadau gweithgaredd defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddo wneud hynny, neu os bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata arall a gadwyd yn flaenorol. Gallwch wrthod y defnydd o cookies trwy ddethol y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder, os bydd cwcis yn cael eu hanablu, efallai na fyddwch yn gallu cael defnyddioldeb llawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi eich caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn y ffordd ac at y dibenion a nodir uchod.

Darllenwch Google's Full Privacy Policy (dolen i wefan allanol) a’r Terms of Service (dolen i wefan allanol) am wybodaeth fanwl.

Beth yw Cookies?

Ffeiliau bach yw cwcis y mae gwefannau’n eu rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro y byddwch yn ymweld. Cânt eu defnyddio i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a chadw gwybodaeth am hoffterau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu / anablu cwcis ar eich porwr; noder efallai na fydd rhai gwefannau yn gweithio’n iawn heb cwcis.
Sut i Anablu Cookies
I newid eich gosodiadau cookies:

Internet Explorer: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislenni > Dewiswch ‘Internet Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Disable / restrict cookies
Firefox: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislenni > Dewiswch ‘Options’ > Dewiswch ‘Privacy’ > Disable / restrict cookies
Opera: Ewch i ‘Tools’ ar y bar dewislenni > Dewiswch ‘Preferences’ > Dewiswch ‘Privacy / Advanced’ > Disable / restrict cookies

* Noder y gall y gosodiadau uchod amrywio yn dibynnu ar fersiwn y porwr.

Pam yr Ydym yn Casglu Ystadegau Defnyddwyr
Trwy ddeall ymddygiad a hoffterau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i fodloni disgwyliadau ac anghenion defnyddwyr.

Gwefannau Allanol
Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i gysylltiadau allanol; mae casglu gwybodaeth gan safleoedd o’r fath yn amodol ar bolisïau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol ac mae defnyddio gwefannau o’r fath yn ôl eich disgresiwn chi