Contact

Angen Cymorth ar Frys?

Nid yw’r Gwasanaeth Cynradd i Gynorthwyo Iechyd Meddwl (PMHSS) yn wasanaeth addas ar gyfer pobl mewn argyfwng neu pobl sydd angen cymorth ar frys. Gobeithio bod y wefan hon yn ddefnyddiol i chi

Os ydych chi, neu rhywun arall, mewn argyfwng, deialwch 999. 

Os ydych chi, neu rhywun arall, ddim mewn argyfwng ond angen cymorth ar frys, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu i ddechrau i alluogi cyfeiriad at y gwasanaethau priodol. Os ydych angen cymorth ar frys tu allan i oriau arferol eich Meddyg Teulu, dylech fynd at y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E).

Os ydych angen siarad efo rhywun heddiw, cysylltwch â:

CALL

Llinell Gyngor a Gwrando’s Gymuned  0800 132737 (Ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos) Yn cynnig cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth a llenyddiaeth ar iechyd meddwl a phynciau cysylltiedig ar gyfer pobl yng Nghymru. Mi all unrhyw un sy’n bryderus am eu iechyd meddwl, neu iechyd meddwl rhywun arall, gysylltu â’r gwasanaeth.

Samaritans

The Samaritans 08457 909090 (Ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos) Yn cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol, am ddim, dros y ffôn i unrhyw un sydd yn teimlo’n anobeithiol neu yn ddigalon, yn cynnwys pobl sydd yn meddwl cymeryd eu bywydau eu hunain. Mae’n bosibl i gwrdd â aelod o’r staff yn eu swyddfeydd lleol.

Mind

Mind Infoline 0300 123 3393 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am –  5pm).
Cymorth cyfrinachol, am ddim a gwybodaeth am nifer o wahanol broblemau iechyd meddwl.

Silverline

The Silver Line 0800 4708090 (open 24 hours a day, 7 days a week)
Llinell gymorth cyfrinachol, am ddim, ar gyfer pobl hŷn.

Meic

Meic Cymru 0808 8023456 (Ar gael bob diwrnod o 8am i ganol nos)
Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc.

Family Point Cymru

PwyntTeulu Cymru  0300 2225757 (Ar gael Dydd Llun i Ddyd Gwener, 9am – 5pm)
Gwêfan gyda deunydd defnyddiol ac erthyglau ‘cymorth cyfoedion’ a llinell gymorth eiriolaeth i gefnogi teuluoedd i gysylltu â unrhyw wasanaethau perthnasol.