stepiau

ACT-ion for Living - Cardiff and the Vale of Glamorgan
Ydy bywyd yn anodd i chi ar y foment?

Mae lot o bobl yn dioddef ac yn teimlo fel eu bod yn cael eu mygu gan eu problemau emosiynol. Mae nhw’n ceisio gwella eu bywydau a rheoli pethau ond, weithiau, mae brwydro yn erbyn bywyd yn gallu gwneud pethau yn waeth. Y canlyniad yw fod pobl yn ceisio brwydro ond yn dal i ddioddef o iselder, pryder a phoen..

Pan rydych yn dioddef i’r fath raddau, mae’n demptasiwn i oedi eich bywyd a dweud wrth chi’ch hun bydd pethau’n gwella ac bydd bywyd yn well ar ôl i chi lwyddo cael gwared o’ch poen. Ond mi all hwn gymeryd oes ac, yn y cyfamser, mae bywyd yn cario mlaen hebddoch..

Felly mae brwydro yn erbyn eich problemau yn gallu cymeryd eich holl egni ac yn gallu gwneud pethau’n waeth. Yn ogystal â hyn, mae aros i’ch problemau ddiflannu yn gallu golygu aros am amser hir iawn, iawn. Felly, beth yw’r ateb??

Yr ateb yw i ddysgu byw bywyd llawn gyda eich problemau emosiynol. Mae llawer o bobl wedi darganfod fod ansawdd eu bywydau yn gwella, tra fod eu poen yn lleihau, drwy ddefnyddio sgiliau a syniadau newydd sydd yn teillio o fudiad therapi newydd o’r enw Therapi Derbyn ac Ymrwymo – ACT (Acceptance and Commitment Therapy.).

Mae ACT yn helpu pobl i leihau eu dioddefiant a byw bywydau llawn drwy ddysgu mwy am sut mae meddyliau yn gweithio a thrwy ddilyn dwy egwyddor: Derbyn y pethau na allwch reoli ac ymrwymo i wneud yr hyn a allwch i wella a chyfoethogi eich bywyd..

Os ydy’r cyflwyniad syml yma yn gwneud synnwyr i chi, mae yna gyfle i chi i ddysgu sgiliau a syniadau y therapi newydd yma yn lleol. Mae Caerdydd a’r Fro yn rhedeg cyrsiau sydd wedi eu hysbrydoli gan ACT ar gyfer pobl sydd â diddordeb byw eu bywydau gan ddefnyddio egwyddorion ACT. Mae’r cwrs yma hefyd yn gyflwyniad i ‘mindfulness’, sydd yn sgil therapy pwerus ac effeithiol iawn..

Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim. Byddwch yn derbyn llawlyfr i atgyfnerthu eich dysgu..

Mae ACT-ion for Living yn rhedeg am 4 sesiwn wythnosol (ACT1, ACT2, ACT3, ACT4) ac mae pob sesiwn yn 2 awr. Os ydych yn dod i’r cwrs, does dim disgwyl i chi siarad am eich sefyllfa na eich problemau personol. Gallwch ddewis i beidio siarad o gwbl yn ystod y sesiynau – byddech dal yn cael buddiant o fynd..

Byddwch yn dysgu ffyrdd newydd o feddwl drwy wrando ar y darlithydd ac drwy gymeryd rhan mewn rhai ymarferion syml yn ystod y sesiynau. Bydd hefyd gofyn i chi gwblhau peth gwaith cartref rhwng y sesiynau (ond does dim angen dangos i gwaith i unrhywun, dydy’r gwaith ddim yn cael ei asesu neu farnu o gwbl!).

Mae’r cwrs ‘Gweithredu ACT i fyw’ yng Nghaerdydd a’r Fro ar gael i unrhywun o’r gymuned, felly nid oes angen bwcio lle ar y cwrs, dim ond dod! Mae’n anhebygol i’r ganolfan lenwi’n llawn ond, os fyddai hynny’n digwydd, byddai’r bobl a gyrhaeddodd gyntaf yn cael blaenoriaeth.

Er fod croeso i chi ddod i’r ddau gwrs rydym yn rhedeg, rydym yn argymell eich bod yn mynd i un cwrs ar y tro gan fod gan y cwrs ‘Rheoli Straen’ a’r cwrs ‘Gweithredu ACT i fyw’ safbwyntiau ychydig yn wahanol.

Mae croeso mawr i chi ddod â rhywun gyda chi fel cwmni neu chymorth. I ddarganfod dyddiadau a lleoliadau y grwpiau nesaf ‘Gweithredu ACT i fyw’.