![]() Stress Control – Caerdydd a’r Fro
Mae straen yn rhan o fywyd. Mae straen yn broblem mawr i 4 allan o 10 person ym Mhrydain. Dyma’r rheswm mwyaf cyffredin i bobl fynd i weld eu Meddyg Teulu.
Er fod straen yn broblem cyffredin iawn, dydy lot o bobl ddim yn gallu synhwyro pan mae eu lefel o straen yn uchel, neu yn ffeindio hi’n anodd i gydnabod mai hwn yw’r prif broblem. Yn aml, bydd pobl yn mynd at eu Meddyg Teulu am gyngor ynglyn â stumog gwael, cur pen, poenau yn y frest, cwsg gwael ayyb – ond mi all yr holl symptomau yma deillio o straen..
Mae pobl sydd yn byw gyda lefel uchel o straen yn aml yn teimlo fel eu bod yn colli rheolaeth o’u bywydau ac eu bod methu ymdopi â phethau fel pobl eraill..
Mae straen yn gallu effeithio unrhywun – hen neu ifanc, dyn neu ddynes, tlawd neu chyfoethog, tawel neu hyderus. Nid ydych yn rhyfedd, gwirion na’n ddiffygiol os oes gennych lefel uchel o straen..... Mae straen yn normal..
Dydy o ddim yn ddefnyddiol i ddewud wrth rywun sydd yn byw gyda lefel uchel o straen “côd dy galon” neu “gafael ynddi!” gan fod ‘codi calon’ neu ‘gafael ynddi’ ddim mor hawdd â hynny i bobl yn byw gyda lefel uchel o straen. Does neb eisiau byw efo gormod o straen. Mae’r ffactorau sy’n dechrau straen, ac y ffactorau sydd yn cadw straen i fynd, yn gymleth – ond mae hi yn bosibl i ddysgu sut i reoli straen yn well.
Mae’r cwrs ‘Stress Control’ yn cael ei redeg i bobl ddysgu sut i reoli eu straen yn well. Mi fyddwch yn dysgu gwahanol sgiliau i reoli straen yn wythnosol ac, wrth i’r wythnosau fynd heibio, byddwch yn dysgu sut i gyfuno’r sgiliau yma at eu gilydd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych amrywiaeth o sgiliau rheoli straen i ddefnyddio yn eich bywyd bob dydd.
Mae’r cwrs yn para am 6 wythnos.
Mae pob sesiwn yn 2 awr.
Bydd gofyn i chi ymarfer y sgiliau newydd rhwng pob sesiwn.
Byddwch yn cael llawlyfr i gadw sydd yn llawn deunydd y cwrs i atgyfnerthu beth rydych wedi dysgu pob wythnos. Strwythur y 6 sesiwn yw::
![]() Er fod croeso i chi ddod i’r ddau gwrs rydym yn rhedeg, rydym yn argymell eich bod yn mynd i un cwrs ar y tro gan fod gan y cwrs ‘Rheoli Straen’ a’r cwrs ‘Gweithredu ACT i fyw’ safbwyntiau ychydig yn wahanol. Mae croeso mawr i chi ddod â rhywun gyda chi fel cwmni neu chymorth. I ddarganfod dyddiadau a lleoliadau y grwpiau nesaf ‘Rheoli Straen’, cliciwch yma Stress Control dates. | Links:
Cysylltwch â ni:
02920 906223
Guided Relaxation Audio Download:
|